Mae cludo bwyd dros bellteroedd mawr yn gwastraffu llawer o ynni, yn cyfrannu at gynhesu'r byd, ac mae'r bwyd yn colli blas erbyn iddo eich cyrraedd chi. Creda SGG mai'r bwyd gorau gewch chi ydy bwyd sy wedi'i dyfu neu ei gynhyrchu yn eich cyffiniau chi. Ond mae'n anodd weithiau cael hyd i fwyd lleol. Dyna pam rydyn ni wedi casglu rhestr o gyfeiriadau i chi: Mae'r llefydd a restrir isod yn gwerthu bwyd sy heb deithio tu allan i Wynedd (er y gweithredir y rheol yma gyda rhywfaint o hyblygrwydd ar gyrion y sir). Cynhwyswyd lle os oedd 90% o'r bwyd ffres oedd ar werth yno yn dod o Wynedd.
Cofiwch, os ydych chi am arbed ynni a CO2, mae eisiau i chi beidio gyrru o gwmpas yn y car yn arbennig i brynu bwyd. Triwch stopio wrth fferm neu siop pan fyddwch yn pasio beth bynnag.
Trefnir yr wybodaeth o fewn y gwahanol adrannau yn ôl cod post fel y gallwch ddod o hyd i'r cynhyrchydd agosaf yn rhwydd.
Os ydych chi'n gwybod am rywun sy'n gwerthu cynnyrch lleol ond heb ei gynnwys yn y rhestr, rhowch wybod ac mi wnawn ni ychwanegu nhw.
![]() | 1. Llysiau a ffrwythau |
![]() | 2. Cynnyrch llefrith ac wyau |
![]() | 3. Cig a physgod |
![]() | 4. Arall |
![]() | 5. Marchnadoedd |
1. Llysiau a ffrwythauRichard Parry, Gwindy, Llecheiddior, Garndolbenmaen, LL51 9EZ
ffôn: 01766-530772
Tatws ar gael o'r fferm (ffoniwch yn gyntaf).
Cynnyrch organig (UK51): Amrywiaeth fawr o lysiau a ffrwythau ar gael o fis Awst tan fis Mawrth.
Mae ffermydd Mur Crusto a Ty'n Lôn Uchaf yn gwerthu eu cynnyrch ar y cyd drwy gynllun bocsys mae'r cwsmeriaid yn eu pigo i fyny o giât y fferm.
Meinir Roberts, Tanrallt, Llangian, Abersoch, Pwllheli, LL53 7LN
ffôn: 01758-713527
Tatws ar werth o giât y fferm.
Gwyndaf Jones, Penrhos, Botwnnog, Pwllheli, LL53 8PY
ffôn: 01758-730274
Tatws, cabaets, betys, moron a llysiau eraill ar gael o'r fferm (ffoniwch yn gyntaf) ac o siopau lleol.
John Hughes, Penrhyn Uchaf, Sarn Mellteyrn, Pwllheli, LL53 8RP
ffôn: 01758-730630
Tatws ar gael drwy'r flwyddyn o'r fferm (gyda'r nos; ffoniwch yn gyntaf), o garej Sarn ac o siopau Bwydlŷn. Mae hefyd yn bosibl eu danfon yn lleol.
Gwilym Jones, Tŷ Newydd, Llaniestyn, Pwllheli, LL53 8SE
ffôn: 01758-730269 neu 07929616441.
Tatws ar gael o yn syth o'r fferm.
Merfyn Roberts, Hendy, Pontllyfni, LL54 5EV
ffôn: 01286-660254
Tatws ar gael o'r fferm drwy'r flwyddyn. Hefyd ar brydiau moron a betys.
Wil a Huw Evans, Pant Eithinog, Penygroes, Caernarfon, LL54 6PD
ffôn: 01286-880298
Tatws, moron, rwdins a betys ar gael o'r fferm a mewn siopau lleol.
Plas Baladeulyn, Nantlle, Caernarfon, LL54 6BW
ffôn: 01286-882388, e-bost: info@trigonos.org
www.trigonos.org
Cynnyrch wedi'i dyfu'n naturiol: Llysiau, tatws a rhywfaint o ffrwythau ar gael drwy'r flwyddyn.
Mae cynnyrch Trigonos ar gael o giât y fferm (ar agor 9-16 ddydd Llun i ddydd Gwener, 9-1 ar y penwythnos), mewn cynllun bocs llysiau drwy'r grŵp cymunedol Llysiau Lleu, ac yng nghegin Trigonos.
2. Cynnyrch llefrith ac wyauSue a Jim Alger, Ynysgyffylog Barn, Arthog, LL39 1BQ
ffôn: 01341-250165 neu 07703-592722 neu 07703-592723.
Cynnyrch o fagwraeth naturiol: Wyau buarth a phorc o foch sy wedi'u geni ar y fferm ac yn cael cerdded yn rhydd.
Ar gael ym Marchnad Ffermwyr Dolgellau neu ar ôl archeb dros y ffôn i'w nôl o'r fferm. Mae wyau hefyd ar gael wrth lidiart y fferm gyda blwch talu.
Stephen Tudor, Llwyncrwn, Trawsfynydd, LL41 4TN
ffôn: 01766-540338 neu 07833357588
Wyau buarth i'w nôl o'r fferm neu i'w danfon yn y cyffiniau.
Ann Parry, Gallt y Beren, Rhydyclafdy, Pwllheli, LL53 7YP
ffôn: 01758-740233
Cynnyrch organig (UK131): Llefrith a caws gafr ar gael drwy'r flwyddyn o giât y fferm.
Glyn a Teleri Jones, Tir Bach, Llaniestyn, Pwllheli, LL53 8PS
ffôn: 01758-730367 neu 07866250277
Wyau sgubor a buarth ar gael drwy'r flwyddyn o giât y fferm.
Emlyn a Joan Williams, Hirdre Bach, Edern, Pwllheli, LL53 8YY
ffôn: 01758-721910
Wyau buarth ar gael drwy'r flwyddyn o giât y fferm ac ar farchnad Pwllheli ddydd Mercher.
3. Cig2 a physgodMae llawr o gigyddion lleol yn gwerthu cig sy wedi'i fagu'n lleol cyn belled â phosibl. Gofynnwch i un yn eich cyffiniau chi.
Lowri a Gwyn Roberts, Dolhendre Isa, Llanuwchllyn, Y Bala, LL23 7TD
ffôn: 01678-540348, e-bost: lowri.rees@btinternet.com
Cig eidion organig (UK21) ar gael drwy'r flwyddyn mewn bocs sy'n cael ei ddanfon neu ei nôl o'r fferm. Cysylltwch drwy ffôn neu e-bost cyn galw.
Margaret a Maldwyn Thomas, Fferm Cwmonnen, Llanuwchllyn, Bala, LL23 7UG
ffôn: 01768-540603; e-bost: admin@aran-lamb.co.uk
www.aran-lamb.co.uk
Cig organig (UK131): cig oen a dafad ar gael o'r fferm a drwy'r post drwy'r flwyddyn. Gellir archebu drwy'r wefan uchod.
Mercia Hammond, Bron y Gân, Llanegryn, LL36 9UF
ffôn: 01654-711553/siop ym Machynlleth: 01654-700410
Cig organig (UK51): cig oen ac eidion ar gael o'r fferm (ffoniwch yn gyntaf), o Farchnad Ffermwyr Dolgellau ac o siop Blasau ym Machynlleth (gweler y rhif ffôn uchod).
Elfed Roberts, Hafod Ddwyryd, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 4HN
ffôn: 01766-590278 neu 07768667508
Cig oen ac eidion Cymreig ar gael mewn bocsys o lidiart y fferm (ffoniwch ymlaen llaw). Hefyd byrgers, selsig a chynnyrch arall cartref.
Bini Jones, Fferm Tŷ Isaf, Llanffestiniog, LL41 4LS
ffôn: 01766-762608; e-bost: binisorganics@btinternet.com
Cig o fagwraeth organig (UK51): Gwartheg Duon Cymreig pedigri ac Ŵyn Mynydd Cymreig ar gael mewn cynllun bocs i'w nôl o'r fferm neu drwy'r post.
Olwen Ford, Llan Farm, Llanfrothen, Penrhyndeudraeth, LL48 6DI
ffôn: 01766-770399
Cig eidion, oen a phorc o fridiau traddodiadol ar gael ar adegau mewn bocsys. Ffoniwch i drefnu.
Brat a Nia Garner, Ty'n Mynydd, Rhiw, Pwllheli, LL53 8AE
ffôn: 01758-780420
Pysgod, crancod a chimychiaid ar gael o'r tŷ.
Gareth Griffiths a Mary White, Ffridd Wen, Tudweiliog, Pwllheli, LL53 8BG
ffôn: 01758-770397, e-bost: mary@selectiveseafoods.co.uk
www.selectiveseafoods.co.uk
Crancod, cimychiaid a bwyd môr arall o Lŷn wedi'i baratoi ar gael drwy'r post. Am fanylion gweler gwefan y cwmni.
Richard a Tracey Wilson, Hendre Penprys, Pentre Uchaf, Pwllheli, LL53 8EZ
ffôn: 01758-750306, e-bost: sales@welshfarmsausages.co.uk
welshfarmsausages.co.uk
Ar werth o giât y fferm (ffoniwch yn gyntaf): Wyau a cywion ieir buarth, twrci, cig eidion, porc, cig oen a gafr, selsig arbennig, bacwn wedi'i halltu.
Cwmni Cydweithredol Cig Llŵn Cyf., Tan y Bryn, Rhydyclafdy, Pwllheli, LL53 8TW
ffôn: 01758-701198
www.traedmoch.com
Cynnyrch porc wedi'i fagu gyda grawn a llysiau a dyfwyd ar y fferm: cig, bacwn, selsig. Cynnyrch ar gael ar archeb, yn Siop y Post, Efailnewydd, ac yn achlysurol ym marchnadoedd a ffeiriau. Am fanylion gweler gwefan y cwmni.
Cyswllt ar gyfer fferm Hafod y Llan ger Beddgelert ydy Sioned yn swyddfa'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; ffôn: 01690-713327 (Llun i Mercher), e-bost: enquiries@hafodyllan.org.uk
www.hafodyllan.org.uk
Cig oen mynydd Cymreig ar gael mewn bocs a ddanfonir drwy gludwr 24 awr.
Pam a Dafydd Parry, Hafod-y-Llyn, Nantmor, Beddgelert, LL55 4YN
ffôn: 07901 600637
Cig, selsig a bacwn wedi'i halltu o foch sy'n cael cerdded yn y caeau.
Ifan Neville Owen, Bryn Gwylan, Waunfawr, Caernarfon, LL55 4YS
ffôn: 01286-650673
Cig oen ac eidion organig (UK51) ar gael mewn bocs i'w nôl o'r fferm o Orffenaf 2007. Ffoniwch am fanylion.
Mêl Hafan:David Heaf, Hafan, Cae Llwyd, Llanystymdwy, Criccieth, LL52 0SG
ffôn: 01766-523181, e-bost: 101622.2773 (at) compuserve.com
www.mygarden.me.uk/bees.htm
Mêl ar gael ym mis Mehefin-Gorffenaf a mis Medi-Tachwedd yn uniongyrchol o'r cynhyrchydd ac o siopau lleol.
John Rhys Davies, Bwlch y Ffordd, Bryncroes, Pwllheli, LL53 8EU
ffôn: 01758-730769
Mêl ar gael o'r haf tan y gwanwyn yn uniongyrchol o'r cynhyrchydd ac o siopau lleol.
Peter Haywood, Wernlas, Edern, Pwllheli, LL53 8YP
ffôn: 01758-721349
Mêl blodau gwyllt a grug ar gael drwy'r flwyddyn yn uniongyrchol o'r cynhyrchydd ac o siopau lleol.
5. MarchnadoeddBob trydydd dydd Sul o'r mis (heblaw Ionawr a Chwefror), yr ail dydd Sul ym mis Rhagfyr.
Cyswllt: Mo Ainscough, Siop y Blodau, ffôn: 01341-422 808
Bob dydd Iau 9.30-11.30 (heblaw am ddwy wythnos cyntaf mis Ionawr) yn y Llyfrgell Rydd.
Cyswllt: Sue Beasley: 01766-540364.
Bob dydd Gwener 9-12yb (heblaw Ionawr), Canolfan Frondeg, Ala Uchaf.
Cyswllt: 0845 108 3784.
Ail ddydd Sul y mis, 10-4, Parc Glasfryn, Y Ffôr, Pwllheli.
Cyswllt: Amanda Thomas, ffôn: 01766-810044.
Bob dydd Gwener, 3.30-5yh, yn ac o flaen y Ganolfan.
Cyswllt: Judy, Trigonos, ffôn: 01286-882388.
Ddydd Gwener cyntaf y mis, 10-4, Y Ganolfan (drws nesaf i'r Mynydd Gwefru).
Cyswllt: A. Jones, ffôn: 01286-870605.
Bob yn ail ddydd Sul, 10-14.30, ym maes parcio Morrisons.
Cyswllt: Joanna Davidson, ffôn: 01407-720431.
Cynllun bocsys ffrwythau a llysiau organig a tymhorol sy'n danfon i lefydd i'r de o Lanbedr. Defnyddir cymaint o gynnyrch lleol a phosibl.
Cyswllt: Liz Lavelle, ffôn: 01970-832883.
2 Y bwyd lleiaf effeithlon o ran ynni ydy cig. Mae anifeiliaid yn bwyta sawl gwaith eu pwysau eu hun o fwyd (sy yn aml yn teithio'n eithaf pell os ydy o'n cael ei brynu i mewn). Hefyd mae'r rhan fwyaf o anifeiliad sy'n cael eu magu yng Ngwynedd yn cael eu cludo tu allan i'r sir i'w lladd neu hefyd i dreulio'r gaeaf ar lawr gwlad. Oherwydd hyn dydy'r adran "cig" isod ddim yn cadw'n hollol at reol y rhestr bod y cynnyrch heb deithio allan o'r sir. Ond mae Corwen yn dal yn llai o daith na'r Ariannin.